Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 4 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.16 - 11.49 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Rebecca Evans AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC William Powell AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dr Sandra Sandham, Llywodraeth Cymru David Thomas, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, y Gweinidog a’i swyddogion a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams.
2 Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i’r Athro Stephen Richmond ystyried yr angen am isafswm oedran ar gyfer atgyfeirio at wasanaethau orthodontig, ar wahân i’r 2% o blant a ddyfynnwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol fel rhai sydd wedi’u nodi i fod ag angen am atgyfeirio cynnar.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) ar gyfer eitem 6
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol - ystyried y materion allweddol
5.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad.
5.2 Nododd y Pwyllgor ei farn bod angen ymchwilio ymhellach i fynediad at dechnolegau meddygol o fewn gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol cyn cwblhau’r ymchwiliad hwn. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, i ystyried y materion hyn ymhellach.
6 Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014
6.1 Cytunodd y Pwyllgor:
· I gynnal ymchwiliad i gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn nhymor yr hydref. Bydd y Pwyllgor yn ystyried ei ddulliau mewn perthynas â’r ymchwiliad maes o law;
· i wahodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i roi tystiolaeth yn ystod tymor yr hydref, yn arbennig i drafod ei hadolygiad o ofal preswyl a’i hadroddiad blynyddol;
· i wahodd y Prif Swyddog Meddygol i ddod i sesiwn graffu gyffredinol yn nhymor yr hydref fel rhan o raglen y Pwyllgor o graffu ar Brif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru;
· i wahodd swyddogion y Llywodraeth i roi briff ffeithiol yn nhymor yr hydref ar y rheoliadau sy’n deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, unwaith y bydd rheoliadau drafft yn cael eu cyhoeddi;
· i godi, ymhlith pethau eraill, y materion a ganlyn gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a drefnwyd ar gyfer 16 Gorffennaf:
o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli cyflyrau cronig;
o recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon teulu;
o adroddiadau diweddar ar amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ar y galon;
· ystyried materion ynghylch proses gwyno GIG Cymru, i’w lywio’n benodol gan yr adroddiad ar yr Adolygiad o Ymdrin â Phryderon a Chwynion yn GIG Cymru, o dan arweiniad Keith Evans, unwaith y bydd yr adroddiad ar gael.